International Photography Festival 2018 / Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol 2018
 
 

Tocynnau

 
EYE Fest_16-0250.JPG

Dydd Gwener 5ed - Dydd Sul 7fed Hydref 2018

Mae Gŵyl y LLYGAD yn dychwelyd ar gyfer ei phedwaredd flwyddyn gyda rhaglen wych arall o siaradwyr, arddangosfeydd, gweithgareddau a rhwydweithio.


 Image © Helen Marshall

Image © Helen Marshall

 Image © Tim Rudman

Image © Tim Rudman

Wedi'i sefydlu gan ffotograffwyr ar gyfer ffotograffwyr a'r sawl sy'n gwerthfawrogi pob ffurf o ffotograffiaeth, mae Gŵyl y LLYGAD yn gyfle delfrydol i glywed cyflwyniadau gan ffotograffwyr blaenllaw ac i weld gwaith yn cael ei arddangos mewn nifer o arddangosfeydd ar y safle.

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn lleoliad gwych gydag orielau a gydnabyddir yn fyd-eang, gofod theatr a sinema - yn ogystal â pharcio hwylus, golygfa o'r môr a lluniaeth ardderchog!

Byddwn yn diweddaru'r wefan yn ystod y dyddiau nesaf gyda'r rhaglen lawn ar gyfer prif ddyddiau'r Ŵyl sef Dydd Sadwrn a Dydd Sul - yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr arddangosfeydd a gwahanol weithgareddau yn cael eu cadarnhau!  Porwch y wefan am ragor o fanylion am docynnau, ein siaradwyr a'n lleoliad gwych - a chofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau'r Ŵyl trwy'r ebost gyda'r botwm isod.